Rhenti'r farchnad

Ceisiadau
 

  • Rhenti'r farchnad agored, lle bo'r landlord o dan denantiaeth sicr neu denantiaeth gyfnodol fyrddaliol sicr wedi cyflwyno hysbysiad i'r tenant yn cynnig cynyddu'r rhent (Ffurflen Gais RAC1)
     
  • Rhent sydd i'w dalu, lle bo tenant o dan denantiaeth fyrddaliol sicr yn anfodlon ar y rhent sydd i'w dalu o dan y denantiaeth (Ffurflen Gais RAC2)
     
  • Telerau ar gyfer y denantiaeth, lle bo tenantiaeth cyfnod penodedig sicr neu denantiaeth fyrddaliol sicr wedi dod i ben a bod y landlord neu'r tenant wedi cynnig telerau newydd ar gyfer y denantiaeth drwy hysbysiad (Ffurflen Gais RAC3)
     
  • Terfynu les hir, atgyfeiriadau gan y landlord lle y cyflwynwyd hysbysiad yn datgan bod les hir am rent isel wedi dod i ben a lle y cyflwynwyd gwrth-hysbysiad gan y tenant mewn pryd - Ffurflen Gais, Rheoliadau Tenantiaethau Preswyl Hir (prif ffurflenni) 1997: Ffurflen 5. Mae'r ffurflen gais hon ar gael ar-lein ac ar ffurf argraffedig ar wefan swyddogolDeddfwriaeth y DU.
     

Mae ein llawlyfr canllaw yn cynnwys gwybodaeth bwysig am geisiadau, terfynau amser a gweithdrefnau'r tribiwnlys (Pwyllgorau Asesu Rhenti: Rhenti'r Farchnad Agored - llawlyfr canllaw RAC-G2).