Sut mae gwneud cais neu apêl i'r tribiwnlys?
Er mwyn gwneud cais neu apêl, rhaid i chi lenwi'r ffurflen gais berthnasol a'i hanfon i'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl dros Gymru. Gellir cyflwyno ceisiadau drwy e-bost i rpt@llyw.cymru neu ar ffurf copi caled drwy’r post. Gallwch lawrlwytho ffurflenni a llawlyfrau canllaw o wefan y tribiwnlys, neu gallwch gysylltu â swyddfa'r tribiwnlys os hoffech i ni anfon ffurflen gais neu lawlyfr canllaw atoch.
Beth os oes gennyf unrhyw anghenion ychwanegol?
Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi manylion unrhyw anghenion ychwanegol sydd gennych pan fyddwch yn anfon eich cais am apêl atom. Er enghraifft, os bydd angen arwyddwr neu ddehonglydd arnoch yn y gwrandawiad, neu os bydd angen gwneud unrhyw drefniadau ychwanegol ar gyfer y gwrandawiad.
All y tribiwnlys argymell unrhyw gynrychiolwyr a fydd yn gallu fy helpu gyda'r cais?
Fel corff barnwrol, ni all y tribiwnlys wneud argymhellion am gynrychiolwyr na rhoi cyngor ar geisiadau. Mae'r dudalen adnoddau defnyddiol ar ein gwefan yn rhoi manylion sefydliadau a allai eich helpu.
Oes terfyn amser ar gyfer gwneud cais?
Mae ein llawlyfrau canllaw yn cynnwys gwybodaeth bwysig am geisiadau, terfynau amser a gweithdrefnau'r tribiwnlys
Oes rhaid imi dalu ffi i wneud cais?
Mae ffi am wneud rhai ceisiadau, ond nid pob un. Mae'n bwysig eich bod yn darllen y llawlyfr canllaw pan fyddwch yn gwneud cais: Y Tribiwnlys Eiddo Preswyl a'r Tribiwnlys Prisio Lesddaliadau: Canllaw ar Ffioedd a Hepgor Ffioedd - Llawlyfr Canllaw LVT/RPT-G1
A fydd fy ffi gwneud cais yn cael ei had-dalu os caiff fy achos ei gadarnhau?
Na. Unwaith y caiff cais ei gyflwyno i'r tribiwnlys a bod y broses yn dechrau ni ellir ad-dalu'r ffi gwneud cais.
Beth sy'n digwydd os byddaf am dynnu fy nghais yn ôl?
Ar yr amod mai chi yw'r ymgeisydd, gallwch dynnu eich cais yn ôl unrhyw bryd. Dylech hysbysu'r tribiwnlys yn ysgrifenedig ac anfon copi o'ch llythyr at bob parti arall sy'n ymwneud â'r cais.
Beth fydd yn digwydd ar ôl i'r tribiwnlys gael cais?
Bydd copi o'r cais a'r holl ddogfennau a ddarparwyd gyda'r cais yn cael eu hanfon at y parti sydd wedi'i enwi'n ymatebydd yn y cais am apêl. Yna bydd cadeirydd gweithdrefnol yn adolygu'r cais. Gall y cadeirydd gweithdrefnol benderfynu rhoi cyfarwyddiadau ysgrifenedig i'r partïon neu orchymyn y dylid cynnal adolygiad cyn y treial.
Alla i anfon cais neu apêl i'r tribiwnlys drwy e-bost?
Nid yw'r tribiwnlys yn derbyn ceisiadau nac apeliadau drwy e-bost na ffacs. Rhaid anfon copïau caled o ffurflenni.
Oes rhaid imi anfon dogfennau gwreiddiol gyda'r cais neu'r apêl?
Nac oes. Dylech ddarparu llungopïau yn gyntaf. Os bydd gwrandawiad, efallai y bydd gofyn i chi gyflwyno'r rhai gwreiddiol.
Pwy sy'n cael copi o'r dystiolaeth a gyflwynir ar gyfer apêl neu gais?
Rhaid i bob parti i'r apêl neu'r cais gael copi o dystiolaeth ei gilydd. Mae'r dystiolaeth hon yn cynnwys y ffurflen apelio neu'r ffurflen gais yn ogystal â'r holl ohebiaeth, papurau a dogfennau sydd wedi'u cyflwyno i'r tribiwnlys gan y person sy'n gwneud yr apêl a'r ymatebydd a enwir yn yr apêl.
Rhaid i banel y tribiwnlys hefyd gael copi o'r holl dystiolaeth a dderbyniwyd gan y tribiwnlys ar gyfer achos.
Pa mor hir y mae'n rhaid aros o'r adeg pan fydd y tribiwnlys yn cael cais i'r adeg pan fydd yn gwneud penderfyniad?
Bydd yr amserlen yn amrywio yn dibynnu ar y math o achos ond mae'r tribiwnlys bob amser yn ceisio delio â cheisiadau'n brydlon a rhoi'r wybodaeth ddiweddarach i chi am hynt yr achos.