Canllawiau a ffurflenni

Mae gwybodaeth am y mathau o anghydfodau rydym yn delio â nhw a sut i wneud cais i Dribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru ar gael yn ein llawlyfrau canllaw.

Gallwch lawrlwytho llawlyfrau canllaw a ffurflenni cais o'r wefan hon neu os hoffech i ni anfon copi atoch, cysylltwch â ni. Bydd angen dychwelyd ffurflenni cais wedi'u cwblhau i Dribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru.

Pwyllgorau Asesu Rhenti

  • rhent - rhenti teg
  • rhenti'r farchnad - o dan denantiaethau sicr a thenantiaethau byrddaliol sicr.

Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau

  • anghydfodau ynghylch lesddaliadau
  • lesddaliadau, taliadau gwasanaeth
  • rhyddfreinio lesddaliadau ac ymestyn lesoedd tai a fflatiau
  • ceisiadau i gydnabod cymdeithasau tenantiaid.

Tribiwnlysoedd Eiddo Preswyl

  • gorchmynion rheoli anheddau gwag
  • gorchmynion rheoli dros dro a therfynol
  • trwyddedu tai amlfeddiannaeth a threfniadau trwyddedu dethol ar gyfer eiddo preswyl arall
  • system mesur iechyd a diogelwch ar gyfer tai
  • cartrefi symudol, gan gynnwys safleoedd sipsiwn a theithwyr.