Ffioedd gwneud cais

Mae ffi am wneud rhai ceisiadau, ond nid pob un. Mae'n bwysig eich bod yn darllen 'Tribiwnlysoedd Eiddo Preswyl: Ffioedd Gwneud Cais - Llawlyfr Canllaw LVT/RPT - G1' pan fyddwch yn gwneud cais.

Mae'r llawlyfr canllaw yn cynnwys gwybodaeth bwysig am ffioedd gwneud cais, ffioedd gwrandawiadau a hepgor ffioedd.

Os ydych yn cael mathau penodol o fudd-daliadau, efallai na fydd rhaid i chi dalu ffi. Mae'n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni am unrhyw fudd-daliadau rydych yn eu cael drwy gwblhau ffurflen cais am hepgoriad ffioedd. Mae gan y tribiwnlysoedd canlynol ffurflenni cais am hepgoriad ffioedd:

  • Hepgor Ffioedd y Tribiwnlys Prisio Lesddaliadau - Ffurflen Gais LVT17
     
  • Hepgor Ffioedd y Tribiwnlys Eiddo Preswyl - FFurflen Gais RPT19.