Amdanom

Tribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru (TEP Cymru) yw'r term cyfunol a ddefnyddir am dribiwnlysoedd penodol sy'n delio ag anghydfodau tai.

Mae'n cynnwys:

  • Pwyllgorau Asesu Rhenti
     
  • Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau
     
  • Tribiwnlysoedd Eiddo Preswyl


Ffeithiau allweddol

  • Tribiwnlys annibynnol a sefydlwyd o dan Ddeddf Tai 2004 yw TEP Cymru.
     
  • Ariennir y tribiwnlys gan Lywodraeth Cymru ond mae'r tribiwnlys, ei aelodau a'i benderfyniadau yn annibynnol ar lywodraeth ganolog a lleol.
     
  • Mae dwy ran i'r tribiwnlys; yr ysgrifenyddiaeth ac aelodau'r tribiwnlys. Mae'r ddwy ran yn cydweithio yn ystod y broses apelio a hawlio gan gyflawni rolau gwahanol. Rôl aelodau'r tribiwnlys yw gwrando ceisiadau ac apeliadau a phenderfynu arnynt. Rôl yr ysgrifenyddiaeth yw cyflawni dyletswyddau gweinyddol sydd ynghlwm wrth brosesu ceisiadau ac apeliadau.