Ein targedau

Ein nod yw darparu gwasanaeth ysgrifenyddiaeth o'r radd flaenaf sy'n canolbwyntio ar anghenion defnyddwyr y tribiwnlys.

Bydd ein targedau yn ein helpu i gyflawni ein nod a monitro ein perfformiad.

Rydym yn mesur ein perfformiad yn erbyn targedau yn barhaus a chaiff ein perfformiad ei gofnodi yn Adroddiad Blynyddol y tribiwnlys.

Hefyd, caiff defnyddwyr y tribiwnlys eu gwahodd i gwblhau arolwg boddhad cwsmeriaid ar ddiwedd y broses er mwyn rhoi adborth ar ein gwasanaeth.

  • Cofrestru
    • 95% o'r holl geisiadau lle nad oes angen rhagor o wybodaeth na chamau gweithredu i gael eu cofrestru o fewn pum diwrnod gwaith i'w cael.
       
    • Mewn 95% o'r holl achosion lle na allwn gofrestru'r cais byddwn yn ysgrifennu at yr ymgeisydd o fewn pum diwrnod gwaith i'w gael i'w hysbysu am y camau y byddwn yn eu cymryd.
       
  • Gohebiaeth
    • Cydnabod 90% o'r holl ohebiaeth a ddaw i law neu wneud gwaith dilynol arni o fewn pum diwrnod gwaith i'w chael.
       
  • Gwrandawiadau
    • Rhoi gwybod am ddyddiad gwrandawiad o leiaf 15 diwrnod gwaith cyn ei gynnal ymhob achos.
       
    • Cyhoeddi 90% o hysbysiadau ynghylch mynychu gwrandawiad a threfniadau gwrandawiad o leiaf 10 diwrnod gwaith cyn cynnal gwrandawiad.
       
  • Penderfyniadau
    • Byddwn yn cyhoeddi 90% o'r penderfyniadau o fewn 28 diwrnod gwaith i'r gwrandawiad.
       
    • Byddwn yn ceisio rhyddhau 75% o apeliadau o fewn 12 mis i'w cofrestru.