Newyddion

Mae newyddion i’w gweld yma sy’n berthnasol i Dribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru.

E-bost wedi’i warchod

Mae’r tribiwnlys wedi cyflwyno meddalwedd newydd o’r enw ‘Egress Switch’ i’n helpu ni danfon a derbyn gwybodaeth trwy e-bost yn ddiogel. Mae’r gwasanaeth, sydd am ddim ac yn syml i ddefnyddio, yn cynnig ffordd ddiogel i’r tribiwnlys a’i ddefnyddwyr i rannu gwybodaeth sensitif, gan sicrhau bod y tribiwnlys yn bodloni gofynion diogelwch a diogelu data. Os ydych chi’n cyfathrebu â’r tribiwnlys trwy e-bost, darllenwch ein cwestiynau cyffredin i ganfod sut gall hyn effeithio arnoch.

Recriwtio aelodau’r tribiwnlys

Mae gwybodaeth sy’n ymwneud â recriwtio aelodau’r tribiwnlys i’w gweld ar-lein ar y gwefannau allanol isod:

Llywodraeth Cymru - Tai ac Adfywio

Mae gwybodaeth am y newyddion diweddaraf, ymgynghoriadau a’r rhaglen ddeddfwriaethol i’w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru.