Croeso i'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl yng Nghymru

Mae’r Tribiwnlys Eiddo Preswyl yng Nghymru yn dribiwnlys annibynnol sydd wedi’i sefydlu er mwyn datrys anghydfodau sy’n ymwneud ag eiddo lesddaliadol ac eiddo rhent preifat.

Trefniadau swyddfa'r Tribiwnlys

Mae’r tribiwnlys yn parhau i weithio o bell, gyda mynediad cyfyngedig at eitemau a anfonir trwy’r post.  Os yn bosibl, gofynnwn i chi anfon unrhyw ddogfennau sydd eu hangen ar y tribiwnlys (yn cynnwys ffurflenni cais a datganiadau ysgrifenedig) trwy e-bost i rpt@llyw.cymru.

Os nad yw hyn yn bosibl, dylech gysylltu â swyddfa’r tribiwnlys ar 0300 025 2777 i wneud trefniadau eraill.

Mae’r tribiwnlys yn rhestru gwrandawiadau fel arfer. Serch hynny, dylech nodi fod mwyafrif yr achosion yn cael eu rhestru’n rhithiol, yn defnyddio llwyfan fideo y Tribiwnlys.

Rydym yn delio ag anghydfodau sy’n ymwneud â’r canlynol:

Pwyllgorau Asesu Rhenti

Pwyllgorau Asesu Rhenti

  • Rhent - rhenti teg, a
  • rhenti'r farchnad - o dan denantiaethau sicr a thenantiaethau byrddaliol sicr.
Dysgwch fwy
Tribiwnlysoedd Eiddo Preswyl

Tribiwnlysoedd Eiddo Preswyl

  • Gorchmynion rheoli anheddau gwag
  • Gorchmynion rheoli dros dro a therfynol
  • Trwyddedu tai amlfeddiannaeth a threfniadau trwyddedu dethol ar gyfer eiddo preswyl arall
  • System mesur iechyd a diogelwch ar gyfer tai
  • Cartrefi mewn parciau
  • Safleoedd sipsiwn a theithwyr awdurdodau lleol
Dysgwch fwy
Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau

Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau

  • Anghydfodau ynghylch lesddaliadau
  • Taliadau gwasanaeth lesddaliadau
  • Lesddaliad, taliadau gwasanaeth
  • Rhyddfreinio lesddaliadau ac ymestyn lesoedd tai a fflatiau
  • Ceisiadau i gydnabod cymdeithasau tenantiaid
Dysgwch fwy

Tribiwnlysoedd sydd i ddod

Mae gwrandawiadau tribiwnlysoedd fel arfer ar agor i'r cyhoedd. Mae rhestr o wrandawiadau tribiwnlysoedd, gan gynnwys manylion tribiwnlysoedd sydd i ddod, ar gael i'w gweld ar-lein.

Dysgwch fwy

Ein cefndir

Mae’r Tribiwnlys Eiddo Preswyl, ei aelodau a’i benderfyniadau yn annibynnol ar y Llywodraeth. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth gweinyddol ac arian i’r tribiwnlys.

Dysgwch fwy

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os na allwch ddod o hyd i unrhyw beth rydych yn chwilio amdano.

Canllawiau sain

Mae rhai o’n canllawiau ar gael ar fformat sain yn ogystal â fformat ysgrifenedig.

Dysgwch fwy