Rheoliadau

Sefydliad statudol a sefydlwyd o dan Ddeddf Tai 2004 yw'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl.

Mae'r tribiwnlys yn annibynnol ar y llywodraeth ac mae'n gyfrifol am benderfynu apeliadau a cheisiadau gan landlordiaid a thenantiaid yn y sector preifat.

Rhestrir y rheoliadau sy'n llywodraethu'r tribiwnlys isod:

  • Rheoliadau Pwyllgorau Asesu Rhenti (Cymru a Lloegr) 1971. Ar gael ar-lein ac ar ffurf argraffedig ar wefan swyddogol deddfwriaeth y DU (gwefan allanol).
     
  • Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Gweithdrefn) (Cymru) 2004. Ar gael ar-lein ac ar ffurf argraffedig ar wefan swyddogol deddfwriaeth y DU.
     
  • Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) 2016. Ar gael ar-lein ac ar ffurf argraffedig ar wefan swyddogol deddfwriaeth y DU.