Ysgrifenyddiaeth ac aelodau

Mae dwy ran i Dribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru (TEP Cymru); yr ysgrifenyddiaeth ac aelodau. Mae'r ddwy ran yn cydweithio yn ystod y broses apelio a hawlio gan gyflawni rolau gwahanol.

Ysgrifenyddiaeth

Mae'r ysgrifenyddiaeth yn gyfrifol am weinyddu'r tribiwnlys. Mae'r ysgrifenyddiaeth yn delio ag ymholiadau ysgrifenedig a rhai dros y ffôn, mae'n gyfrifol am gofrestru eich cais neu apêl a bydd yn ysgrifennu atoch os oes angen rhagor o wybodaeth ac i'ch hysbysu am gamau pwysig ar y broses fel pryd a ble y cynhelir y gwrandawiad.

Cysylltwch â'r tribiwnlys os na allwch ddod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnoch ar y wefan hon neu os oes unrhyw beth yn aneglur.

Aelodau

Llywydd y tribiwnlys yw arweinydd barnwrol TEP Cymru. Mae gan y tribiwnlys is-lywydd hefyd. Y llywydd sy'n gyfrifol am yr aelodau a phenderfyniadau'r tribiwnlys. Mae'r tribiwnlys hefyd yn cynnwys: cyfreithwyr-gadeiryddion, aelodau proffesiynol sy'n syrfewyr siartredig ac aelodau lleyg.

Caiff cyfreithwyr-gadeiryddion y tribiwnlys eu penodi gan yr Arglwydd Ganghellor. Caiff y llywydd a'r is-lywydd eu henwebu gan Weinidogion Cymru o blith yr aelodau hynny a benodwyd gan yr Arglwydd Ganghellor. Penodir aelodau proffesiynol a lleyg gan Weinidogion Cymru.

Fel rheol, bydd cyfreithiwr-gadeirydd yn bresennol yng ngwrandawiadau'r tribiwnlys gan gynnal y broses a chynghori'r tribiwnlys ar faterion cyfreithiol. Bydd y cyfreithiwr-gadeirydd yn ysgrifennu penderfyniadau ac yn pennu cyfarwyddiadau os oes angen. Bydd aelod proffesiynol hefyd yn bresennol yn y gwrandawiadau fel arfer ac, mewn rhai achosion, aelod lleyg.