Hysbysiad preifatrwydd

Yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018, mae’r hysbysiad hwn yn nodi sut byddwn yn prosesu eich data personol.

Mae data personol yn golygu unrhyw wybodaeth am unigolyn byw y gellir ei defnyddio i ddweud pwy ydyw, er enghraifft, ei enw, ei gyfeiriad, ei ddyddiad geni, ei gyfeiriad e-bost neu ei gymwysterau. Y Tribiwnlys Eiddo Preswyl yng Nghymru (y Tribiwnlys) a Llywodraeth Cymru fydd yn rheoli eich data personol.

Pam ydych chi’n prosesu fy ngwybodaeth bersonol?

Wrth gyfeirio at brosesu, rydym yn golygu unrhyw beth a wneir â’ch data personol, fel eu casglu, eu storio, eu haddasu neu eu dinistrio. Mae gwneud nodiadau yn ystod gwrandawiad tribiwnlys neu gyhoeddi penderfyniad y Tribiwnlys yn enghreifftiau o brosesu. Rydym yn prosesu eich data personol oherwydd bod hynny’n angenrheidiol ar gyfer tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol sydd gan y rheolydd. Felly mae hyn yn unol ag Erthygl 6(e) y GDPR.

Mae hyn yn hanfodol oherwydd mae’n rhaid i’r Tribiwnlys brosesu eich data er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau statudol yn unol â’r ddeddfwriaeth ganlynol:

  • Deddf Rhenti 1977 (p. 42);
  • Deddf Tai 1988 (p. 50);
  • Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42);
  • Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad 1967 (p. 88);
  • Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (p. 28);
  • Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (p. 15);
  • Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (p. 14);
  • Deddf Landlord a Thenant 1985 (p. 70);
  • Deddf Landlord a Thenant 1987 (p. 31);
  • Deddf Tai 2004 (p. 34); a
  • Deddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7).


Pa gategorïau o ddata personol ydych chi’n eu prosesu?

Er nad yw’r Tribiwnlys yn prosesu data categori arbennig fel mater o drefn, gall fod yn angenrheidiol o bryd i'w gilydd. Mae categorïau arbennig o ddata personol yn cynnwys gwybodaeth am hil neu darddiad ethnig, safbwyntiau gwleidyddol, credoau crefyddol neu athronyddol, aelodaeth o undeb llafur, a phrosesu data ynghylch genynnau neu ddata biometrig at ddibenion adnabod bod dynol, data am iechyd neu ddata ynghylch bywyd rhywiol neu gyfeiriadedd rhywiol bod dynol. Rhestrir y categorïau hyn o dan Erthygl 9(1) y GDPR.

Dim ond pan fydd hynny’n angenrheidiol er mwyn sefydlu, er mwyn arfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol neu pryd bynnag y bydd y llysoedd yn arfer eu gwaith barnwrol yn unol ag Erthygl 9(2)(f) y GDPR y bydd y Tribiwnlys yn prosesu data categori arbennig.

O ble ydych chi’n cael data personol amdanaf?

Gall y Tribiwnlys gael eich data personol o’r ffynonellau canlynol:

  • Gallwch ddarparu eich data eich hun i’r Tribiwnlys
  • Awdurdodau Lleol
  • Cymdeithasau Tai
  • Gweithwyr Cyfreithiol Proffesiynol
  • Gwasanaethau Eirioli
  • Rhentu Doeth Cymru
  • Swyddogion Rhenti (Llywodraeth Cymru)
  • Syrfewyr


Ydych chi’n rhannu fy nata personol ag unrhyw un arall?

Er mwyn caniatáu i’r Tribiwnlys gyflawni ei ddyletswyddau statudol, gall y Tribiwnlys rannu eich data â’r sefydliadau/bobl ganlynol:

  • Awdurdodau Lleol
  • Cymdeithasau Tai
  • Gweithwyr Cyfreithiol Proffesiynol
  • Gwasanaethau Eirioli
  • Rhentu Doeth Cymru
  • Swyddogion Rhenti (Llywodraeth Cymru)
  • Syrfewyr

Cyhoeddir penderfyniadau’r Tribiwnlys ar ei wefan. Gall penderfyniadau o dan y gwahanol awdurdodaethau gynnwys enwau a chyfeiriadau’r partïon. Yn y rhan fwyaf o achosion, dim ond yr enw neu'r cyfeiriad y mae modd chwilio amdanynt ar ein gwefan, yn dibynnu ar yr awdurdodaeth.

Yn gyffredinol, rhaid cynnal achosion tribiwnlys (gwrandawiadau) yn gyhoeddus. Mae hon yn agwedd ar yr hawl cyfansoddiadol i gyfiawnder agored. Byddai’n rhaid cyflwyno rhesymau eithriadol dros gynnal gwrandawiad yn breifat.

At ddibenion cynnal gwrandawiadau rhith, bydd Kinly yn brosesydd data ar ran y Tribiwnlys a Llywodraeth Cymru. Bydd Kinly yn cadw cofnodion o fanylion galwadau am 2 flynedd gan gynnwys dyddiad ac amser y gwrandawiad, cyfeiriadau cyfranogwyr (cyfeiriad dyfeisiau fideo, cyfeiriad Skype, cyfeiriad IP), hyd galwad, dyfais a ddefnyddir i gysylltu a lleoliad (yn seiliedig ar gyfeiriad IP).

Ydych chi’n trosglwyddo fy nata personol i wledydd eraill?

Dim ond pe na fyddai parti’n byw yn y Deyrnas Unedig y byddai’r Tribiwnlys yn trosglwyddo data i wledydd eraill. Mewn achosion o’r fath, byddai papurau’r achos yn cael eu hanfon at y parti drwy gyfrwng Post Safonol Rhyngwladol Grŵp y Post Brenhinol Cyf neu drwy e-bost diogel.

Pa mor hir ydych chi'n cadw fy nata personol?

Byddwn yn cadw eich data am hyd at chwe blynedd, yn unol â’n Hamserlen Cadw a Gwaredu.

Pa hawliau sydd gennyf?

  • Mae gennych yr hawl i gael cadarnhad bod eich data’n cael eu prosesu a hawl i gael gafael ar eich data personol
  • Mae gennych hawl i gael cywiro eich data personol os yw’r data yn anghywir neu’n anghyflawn
  • Mae gennych hawl i gael dileu data personol ac atal prosesu mewn rhai amgylchiadau
  • Mae gennych yr hawl i ‘rwystro’ neu atal data personol rhag cael eu prosesu mewn rhai amgylchiadau
  • Mae gennych yr hawl i gludadwyedd data mewn rhai amgylchiadau
  • Mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu mewn rhai amgylchiadau


Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw ymholiadau cyffredinol am gynnwys yr hysbysiad preifatrwydd hwn, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am unrhyw ran ohono, cysylltwch â ni yn TribiwnlysoeddCymru@llyw.cymru

Rheolydd Data
Swyddfa’r Llywydd
Y Tribiwnlys Eiddo Preswyl yng Nghymru
Tŷ Southgate
Stryd Wood
Caerdydd
CF10 1EW

E-bost: rpt@llyw.cymru

Pennaeth Llywodraethu a Sicrwydd
Llywodraeth Cymru 
2il Lawr, Adain y De
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Sut mae modd i mi gwyno os nad ydw i’n fodlon?

Os nad ydych chi’n fodlon ag unrhyw agwedd ar yr hysbysiad preifatrwydd hwn, neu â sut mae eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu, cysylltwch â ni at TribiwnlysoeddCymru@llyw.cymru

Os ydych chi’n dal yn anfodlon, mae gennych yr hawl i wneud cwyn drwy gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO):

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113
E-bost: casework@ico.org.uk 
Gwefan: https://ico.org.uk/global/contact-us/