Trefniadau swyddfa'r Tribiwnlys
Mae’r tribiwnlys yn parhau i weithio o bell, gyda mynediad cyfyngedig at eitemau a anfonir trwy’r post. Os yn bosibl, gofynnwn i chi anfon unrhyw ddogfennau sydd eu hangen ar y tribiwnlys (yn cynnwys ffurflenni cais a datganiadau ysgrifenedig) trwy e-bost i rpt@llyw.cymru.
Os nad yw hyn yn bosibl, dylech gysylltu â swyddfa’r tribiwnlys ar 0300 025 2777 i wneud trefniadau eraill.
Mae’r tribiwnlys yn rhestru gwrandawiadau fel arfer. Serch hynny, dylech nodi fod mwyafrif yr achosion yn cael eu rhestru’n rhithiol, yn defnyddio llwyfan fideo y Tribiwnlys.
Rydym yn delio ag anghydfodau sy’n ymwneud â’r canlynol:
Pwyllgorau Asesu Rhenti
- Rhent - rhenti teg, a
- rhenti'r farchnad - o dan denantiaethau sicr a thenantiaethau byrddaliol sicr.
Tribiwnlysoedd Eiddo Preswyl
- Gorchmynion rheoli anheddau gwag
- Gorchmynion rheoli dros dro a therfynol
- Trwyddedu tai amlfeddiannaeth a threfniadau trwyddedu dethol ar gyfer eiddo preswyl arall
- System mesur iechyd a diogelwch ar gyfer tai
- Cartrefi mewn parciau
- Safleoedd sipsiwn a theithwyr awdurdodau lleol
Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau
- Anghydfodau ynghylch lesddaliadau
- Taliadau gwasanaeth lesddaliadau
- Lesddaliad, taliadau gwasanaeth
- Rhyddfreinio lesddaliadau ac ymestyn lesoedd tai a fflatiau
- Ceisiadau i gydnabod cymdeithasau tenantiaid
Tribiwnlysoedd sydd i ddod
Mae gwrandawiadau tribiwnlysoedd fel arfer ar agor i'r cyhoedd. Mae rhestr o wrandawiadau tribiwnlysoedd, gan gynnwys manylion tribiwnlysoedd sydd i ddod, ar gael i'w gweld ar-lein.
Ein cefndir
Mae’r Tribiwnlys Eiddo Preswyl, ei aelodau a’i benderfyniadau yn annibynnol ar y Llywodraeth. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth gweinyddol ac arian i’r tribiwnlys.
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os na allwch ddod o hyd i unrhyw beth rydych yn chwilio amdano.
Canllawiau sain
Mae rhai o’n canllawiau ar gael ar fformat sain yn ogystal â fformat ysgrifenedig.