Ceisiadau gan bobl yr effeithir arnynt

Ceisiadau

Ceisiadau gan bobl yr effeithir arnynt (Ffurflen Gais RPT3):

  • am orchymyn bod yr awdurdod tai lleol yn rheoli yn unol â'r cynllun rheoli sydd wedi'i gynnwys mewn EDMO terfynol;
  • am orchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod tai lleol wneud addasiadau ariannol os caiff swm nad yw'n wariant perthnasol ei ddangos fel gwariant yn y cyfrifon; neu
  • gall unrhyw berson sydd ag ystad neu fuddiant yn yr annedd wneud cais am orchymyn bod yr awdurdod tai lleol yn talu iawndal am ymyrryd â hawliau'r person hwnnw o ganlyniad i EDMO dros dro.

Mae ein llawlyfr canllaw yn cynnwys gwybodaeth bwysig am geisiadau, terfynau amser a gweithdrefnau'r tribiwnlys (Tribiwnlysoedd Eiddo Preswyl: Gorchmynion Rheoli Anheddau Gwag – Llawlyfr Canllaw RPT-G1).