Pwyllgorau Asesu Rhenti
Mae ein penderfyniad yn derfynol. Fodd bynnag, os ydych yn credu bod camgymeriad yn ôl y gyfraith, gall parti apelio i'r Uwch Dribiwnlys (Siambr Tiroedd) o dan adran 65A o Ddeddf Rhenti 1977. Rhaid i'r Uwch Dribiwnlys (Siambr Tiroedd) gael hysbysiad o'r apêl o fewn 1 mis i'r dyddiad y cafodd yr hysbysiad o'r penderfyniad sy'n destun yr apêl ei anfon at y parti hwnnw. Efallai y bydd partïon am geisio cyngor cyfreithiol os byddant yn teimlo y gall fod ganddynt reswm dros fynd â'r achos i'r Uwch Dribiwnlys (Siambr Tiroedd).
Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau a Thribiwnlysoedd Eiddo Preswyl
Mae ein penderfyniad yn derfynol. Os credwch fod problem dechnegol, fel gwall teipograffyddol neu clercol, gallwch ofyn i'r Tribiwnlys anfon tystysgrif wedi ei chywiro. Ni fyddwn yn adolygu ein penderfyniad oherwydd eich bod chi'n anhapus â’r penderfyniad. Ysgrifennwch i’r Tribiwnlys i ddweud bod problem dechnegol o fewn 28 diwrnod calendar o’r dyddiad sydd ar y llythyr danfonwyd gyda’r penderfyniad.
Os credwch fod y penderfyniad yn anghywir yn ôl y gyfraith gallwch apelio i Siambr Tiroedd yr Uwch Dribiwnlys ond rhaid i chi ofyn i ni am ganiatâd i apelio yn gyntaf. Mae gwybodaeth am wneud apêl a'r terfyn amser ar gyfer hynny ar gael yn ein llawlyfrau canllaw.
Gallwch lawrlwytho llawlyfrau canllaw a ffurflenni cais o'r wefan hon neu os hoffech i ni anfon copi atoch, cysylltwch â ni.