Trefniadau trwyddedu dethol ar gyfer eiddo preswyl arall

Ceisiadau

Ceisiadau mewn perthynas â gorchymyn ad-dalu rhent:

  • gorchymyn ad-dalu rhent pan gaiff y cais ei wneud gan awdurdod tai lleol (Ffurflen gais RPT4);
     
  • gorchymyn ad-dalu rhent pan gaiff y cais ei wneud gan feddiannwr (Ffurflen gais RPT5).
     

Apeliadau

Apeliadau yn erbyn penderfyniad gan awdurdod tai lleol:

  • I wrthod rhoi hysbysiad esemptio dros dro - (Ffurflen Gais RPT6);
  • i roi neu wrthod rhoi trwydded, gan gynnwys apelio yn erbyn telerau'r drwydded (Ffurflen gais RPT9);
  • i amrywio neu ddirymu trwydded, neu i wrthod amrywio neu ddirymu trwydded (Ffurflen gais RPT9).
     

Mae ein llawlyfr canllaw yn cynnwys gwybodaeth bwysig am geisiadau, terfynau amser a gweithdrefnau'r tribiwnlys (Tribiwnlysoedd Eiddo Preswyl: Tai Amlfeddiannaeth a Thrwyddedu Dethol - Llawlyfr Canllaw RPT-G2).