Rhentu Doeth Cymru - trwyddedu asiantau a landlordiaid dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014

Apeliadau gan Landlord

Ffurflen gais HWA1 - Hon yw’r ffurflen briodol i’w defnyddio os ydych chi’n landlord annedd sy’n ddarostyngedig i denantiaeth ddomestig, neu sy’n cael ei marchnata neu ei chynnig ar gyfer ei gosod o dan denantiaeth ddomestig, ac rydych yn dymuno apelio yn erbyn penderfyniad Awdurdod Trwyddedu i ddirymu eich cofrestriad

Ffurflen gais HWA2 - Hon yw’r ffurflen briodol i’w defnyddio os ydych chi’n landlord annedd sy’n ddarostyngedig i denantiaeth ddomestig neu’n berson sy’n gweithredu ar ran landlord (asiant) annedd sy’n cael ei marchnata neu ei chynnig ar gyfer ei gosod o dan denantiaeth ddomestig neu sy’n ddarostyngedig i denantiaeth ddomestig, ac rydych yn dymuno apelio yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod Trwyddedu, sef:

  • rhoi trwydded yn ddarostyngedig i amod (ac eithrio’r gofyniad i gydymffurfio ag unrhyw God Ymarfer a dyroddi’r gan Weinidogion Cymru);
  • gwrthod cais am drwydded;
  • diwygio trwydded;
  • dirymu trwydded.
     

Cais gan Awdurdod Trwyddedu neu Awdurdod Tai Lleol am Orchymyn Atal Rhent

Ffurflen gais HWA3 - Hon yw’r ffurflen briodol i’w defnyddio os mai chi yw’r Awdurdod Trwyddedu neu’r Awdurdod Tai Lleol ar gyfer yr ardal y mae’r annedd wedi’i lleoli ynddi ac rydych yn dymuno gwneud cais am Orchymyn Atal Rhent.
 

Cais gan Awdurdod Trwyddedu, Awdurdod Tai Lleol neu Landlord i ddirymu Gorchymyn Atal Rhent

Ffurflen gais HWA4 - Hon yw’r ffurflen briodol i’w defnyddio os mai chi yw’r Awdurdod Trwyddedu neu’r Awdurdod Tai Lleol ar gyfer yr ardal y mae’r annedd wedi’i lleoli ynddi, neu os mai chi yw landlord yr annedd, ac rydych yn dymuno gwneud cais am orchymyn i ddirymu Gorchymyn Atal Rhent presennol.
 

Cais gan Awdurdod Trwyddedu neu Awdurdod Tai Lleol am Orchymyn Ad-dalu Rhent

Ffurflen gais HWA5 - Hon yw’r ffurflen briodol i’w defnyddio os mai chi yw’r Awdurdod Trwyddedu neu’r Awdurdod Tai Lleol ar gyfer yr ardal y mae’r annedd wedi’i lleoli ynddi ac rydych yn dymuno gwneud cais am Orchymyn Ad-dalu Rhent.
 

Cais gan Denant am Orchymyn Ad-dalu Rhent

Ffurflen gais HWA6 - Hon yw’r ffurflen briodol i’w defnyddio os mai chi yw Tenant yr annedd ac rydych yn dymuno gwneud cais am Orchymyn Ad-dalu Rhent