Apeliadau

Apeliadau
 

Apeliadau mewn perthynas â gorchymyn rheoli (Ffurflen gais RPT16)

  • Gall person perthnasol apelio yn erbyn:
     
    • penderfyniad yr awdurdod tai lleol i wneud gorchymyn rheoli dros dro neu derfynol;
       
    • yn erbyn telerau gorchymyn rheoli;
       
    • yn erbyn telerau gorchymyn rheoli dros dro (ond dim ond mewn perthynas ag adran 110 (5)(a) a (b) o Ddeddf Tai 2004); neu
       
    • yn erbyn penderfyniad awdurdod tai lleol i amrywio neu ddirymu gorchymyn rheoli dros dro neu derfynol neu i wrthod gwneud hynny.

       
  • Gall trydydd parti apelio yn erbyn:
     
    • penderfyniad gan awdurdod tai lleol ynghylch a ddylid talu iawndal i drydydd parti am unrhyw ymyrraeth â hawliau'r person hwnnw yn sgil gorchymyn rheoli dros dro neu derfynol.

Mae ein llawlyfr canllaw yn cynnwys gwybodaeth bwysig am geisiadau, terfynau amser a gweithdrefnau'r tribiwnlys (Tribiwnlysoedd Eiddo Preswyl: Gorchmynion Rheoli Dros Dro a Therfynol – Llawlyfr Canllaw RPT-G4).