Ceisiadau gan landlord perthnasol neu berson yr effeithir arno

Ceisiadau

Ceisiadau gan landlord perthnasol neu berson yr effeithir arno (Ffurflen gais RPT17)

  • Gall landlord perthnasol wneud cais am y canlynol:
    • gorchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod tai lleol wneud addasiadau ariannol os caiff swm nad yw'n wariant perthnasol ei ddangos fel gwariant yn y cyfrifon; neu
    • penderfyniad ynghylch pwy yw'r landlord perthnasol mewn achosion lle mae gorchymyn rheoli wedi dod i ben ac nad oes gorchymyn arall yn ei ddilyn.
       
  • Gall person yr effeithir arno wneud cais am y canlynol:
    • gorchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod tai lleol reoli yn unol â'r cynllun rheoli sydd wedi'i gynnwys mewn gorchymyn rheoli terfynol.
       

Mae ein llawlyfr canllaw yn cynnwys gwybodaeth bwysig am geisiadau, terfynau amser a gweithdrefnau'r tribiwnlys (Tribiwnlysoedd Eiddo Preswyl: Gorchmynion Rheoli Dros Dro a Therfynol – Llawlyfr Canllaw RPT-G4).