Gorchmynion dymchwel

Ceisiadau
 

Ceisiadau mewn perthynas â gorchmynion dymchwel (Ffurflen Gais RPT14)

  • ceisiadau i adennill treuliau awdurdod tai lleol mewn perthynas â gweithredu gorchymyn dymchwel, gan gynnwys penderfynu cyfraniadau cyd-berchenogion;
     
  • ceisiadau gan gyd-berchenogion safle perthnasol i ddosrannu'r gwarged a ad-dalwyd gan awdurdod tai lleol os yw'r awdurdod tai lleol wedi cael ad-daliad ganddynt am y treuliau sydd ynghlwm wrth weithredu gorchymyn dymchwel; neu
     
  • geisiadau gan lesydd neu lesai safle am orchymyn i benderfynu neu amrywio'r les lle bo gorchymyn dymchwel wedi dod i rym.
     

Apeliadau
 

Apeliadau yn erbyn gorchymyn dymchwel (Ffurflen Gais RPT11)
 

Mae ein llawlyfr canllaw yn cynnwys gwybodaeth bwysig am geisiadau, terfynau amser a gweithdrefnau'r tribiwnlys (Tribiwnlysoedd Eiddo Preswyl: Tai Amlfeddiannaeth a Thrwyddedu Dethol - Llawlyfr Canllaw RPT-G3).