Hysbysiadau gwella

Ceisiadau
 

  • Ceisiadau gan awdurdod tai lleol am orchymyn bod person sy'n elwa ar gamau a gymerir gan yr awdurdod tai lleol mewn perthynas â hysbysiad gwella, yn talu'r awdurdod tai lleol (Ffurflen Gais RPT13).
     

Apeliadau
 

  • Apeliadau yn erbyn penderfyniad yr awdurdod tai lleol i amrywio hysbysiad gwella neu i wrthod ei ddirymu neu'i amrywio (Ffurflen Gais RPT10);
     
  • apeliadau yn erbyn (Ffurflen Gais RPT11):
     
    • hysbysiad gwella; neu
       
    • hysbysiad gwella, gan y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo a lle caiff ei gynnwys fel rheswm y dylai rhywun arall, fel perchennog yr eiddo, gymryd camau gweithredu neu dalu costau sy'n ymwneud â hysbysiad gwella;
       
  • apeliadau yn erbyn cais i adennill treuliau penodol lle bo'r awdurdod tai lleol wedi cymryd camau gweithredu heb gytundeb o dan hysbysiad gwella (Ffurflen Gais RPT12).
     

Mae ein llawlyfr canllaw yn cynnwys gwybodaeth bwysig am geisiadau, terfynau amser a gweithdrefnau'r tribiwnlys (Tribiwnlysoedd Eiddo Preswyl: Tai Amlfeddiannaeth a Thrwyddedu Dethol - Llawlyfr Canllaw RPT-G3).