Camau adfer brys

Ceisiadau
 

  • Ceisiadau gan awdurdod tai lleol am orchymyn bod person sy'n elwa ar gamau adfer brys a gymerir gan yr awdurdod tai lleol, yn talu'r awdurdod tai lleol (Ffurflen Gais RPT13).
     

Apeliadau
 

  • Apeliadau yn erbyn cais i adennill treuliau lle bo'r awdurdod tai lleol wedi cymryd camau adfer brys (Ffurflen Gais RPT12)
     
  • Apeliadau mewn perthynas â mesurau brys (Ffurflen Gais RPT11):
     
    • yn erbyn penderfyniad awdurdod tai lleol i gymryd camau adfer brys; neu
       
    • yn erbyn gorchymyn gwahardd brys.
       

Mae ein llawlyfr canllaw yn cynnwys gwybodaeth bwysig am geisiadau, terfynau amser a gweithdrefnau'r tribiwnlys (Tribiwnlysoedd Eiddo Preswyl: Tai Amlfeddiannaeth a Thrwyddedu Dethol - Llawlyfr Canllaw RPT-G3).