Trwyddedu tai amlfeddiannaeth

Ceisiadau

Ceisiadau mewn perthynas â gorchymyn ad-dalu rhent:

  • gorchymyn ad-dalu rhent pan gaiff y cais ei wneud gan awdurdod tai lleol (Ffurflen gais RPT4);
     
  • gorchymyn ad-dalu rhent pan gaiff y cais ei wneud gan feddiannwr (Ffurflen gais RPT5).
     

Apeliadau

Apeliadau yn erbyn penderfyniad awdurdod tai lleol:

  • i wrthod rhoi hysbysiad esemptio dros dro (Ffurflen gais RPT6);
     
  • i gyflwyno hysbysiad gorlenwi neu i wrthod dirymu hysbysiad gorlenwi (Ffurflen gais RPT7);
     
  • i gyflwyno datganiad tai amlfeddiannaeth (Ffurflen gais RPT8);
     
  • i wrthod dirymu datganiad tai amlfeddiannaeth (Ffurflen Gais RPT8);
     
  • i roi neu wrthod rhoi trwydded, gan gynnwys apelio yn erbyn telerau'r drwydded (Ffurflen Gais RPT9);
     
  • i amrywio  neu ddirymu trwydded, neu i wrthod amrywio neu ddirymu trwydded (Ffurflen Gais RPT9).
     

Mae ein llawlyfr canllaw yn cynnwys gwybodaeth bwysig am geisiadau, terfynau amser a gweithdrefnau'r tribiwnlys (Tribiwnlysoedd Eiddo Preswyl: Tai Amlfeddiannaeth a Thrwyddedu Dethol - Llawlyfr Canllaw RPT-G2).