Ceisiadau
- Cais gan berchennog safle cartrefi symudol rheoleiddiedig i apelio yn erbyn penderfyniad awdurdod lleol i beidio â dyroddi trwydded ar gyfer y safle (Ffurflen Gais MH1)
- Cais i apelio yn erbyn amodau trwydded safle neu amodau trwydded safle sy'n amrywio (Ffurflen Gais MH2)
- Cais i apelio yn erbyn: hysbysiad cydymffurfio a roddir gan awdurdod lleol mewn perthynas â methiant honedig i gydymffurfio ag amod(au) sy'n gysylltiedig â thrwydded safle, neu fod awdurdod lleol yn cymryd camau brys, neu yn hawlio codi tâl am dreuliau mewn perthynas ag achos diffyg talu neu gamau brys (Ffurflen Gais MH3)
- Cais gan awdurdod lleol i ddirymu trwydded safle (Ffurflen Gais MH4)
- Cais i apelio yn erbyn penderfyniad awdurdod lleol nad yw unigolyn yn berson addas a phriodol i reoli safle (Ffurflen Gais MH5)
- Cais i apelio yn erbyn penderfyniad awdurdod lleol i benodi rheolwr interim (Ffurflen Gais MH6)
- Cais am orchymyn ad-dalu gan feddiannydd safle heb drwydded. (Ffurflen Gais MH7)
Mae ein llawlyfr canllaw yn cynnwys gwybodaeth bwysig am geisiadau, terfynau amser a gweithdrefnau'r tribiwnlys (Tribiwnlysoedd Eiddo Preswyl: Cartrefi Symudol - Llawlyfr Canllaw TEP-G6).